Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 3, Senedd a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad:
Dydd Iau, 11 Ionawr 2024
Amser:
09.30 -
13.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13833
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Rhun ap Iorwerth AS (yn lle Heledd Fychan AS) Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Vikki Howells AS (yn lle Buffy Williams AS) |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Hywel Jones, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Irfon Rees, Llywodraeth Cymru Alex Slade, Llywodraeth Cymru Chris Parry, National Association of Head Teachers (NAHT) Cymru Laura Doel, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru Catherine Falcus, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru) Mary van den Heuvel, National Education Union (NEU) Urtha Felda, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) Ioan Rhys Jones, UCAC |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Lucy Morgan (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS a Heledd Fychan AS. Dirprwyodd Vikki Howells AS ar ran Buffy ar gyfer eitemau 1 i 4 a dirprwyodd Rhun ap Iorwerth AS ar ran Heledd ar gyfer eitemau 1 i 5.
1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Rhun ap Iorwerth AS ei fod yn Aelod dynodedig o ran y cytundeb cydweithredu.
2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidogion.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am sut mae fframwaith cynllunio'r GIG yn cefnogi clustnodi cyllid ar gyfer plant a phobl ifanc.
2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ddarparu’r canlynol:
- Cofnodion o gyfarfodydd Bwrdd Cyflawni’r Dull Ysgol Gyfan.
- Rhagor o wybodaeth am y gwaith modelu y mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ei wneud ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl, pan fydd ar gael.
- Rhagor o wybodaeth am werthusiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan ar gyfer prosiectau peilot plant a theuluoedd.
2.4 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu nodyn ar sut y mae’r dyraniad o £19 miliwn i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau plant yn cael ei ddefnyddio.
3.1 Derbyniwyd y
cynnig.
4.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn flaenorol.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan undebau prifathrawon.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan undebau athrawon.
6.2 Datganodd Mary van den Heuvel fuddiant fel aelod o Bwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru.
7.1 Cafodd y papurau eu nodi.
7.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i gael eglurhad ynghylch rhai meysydd ym mhapur i’w nodi 17.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.